RHENTU OFFER SYRFFIO
BYRDDAU, GWISGOEDD GWLYB, ESGIDIAU, MENIG, CYFLAU
Eisoes wedi cael ychydig o wersi i ddechreuwyr? Teimlo'n hyderus yn y dŵr? Dim ond eisiau ymarfer heb wersi?
Mae gennym ystod lawn o fyrddau syrffio ewynnog (foamie) i ddechreuwyr, o 7' i 9', ar gyfer syrffwyr o bob lliw a llun. Gweler ein fflyd rhentu
Rydyn ni’n argymell dod yn ôl am wers nawr ac yn y man. Mae hi mor hawdd magu arferion drwg, sy’n arafu ac yn atal eich cynnydd.
Dim ond siwtiau gwlyb y gaeaf rydyn ni’n eu defnyddio, er mwyn cadw pawb yn gyfforddus, beth bynnag fo’r tywydd. Gweler ein fflyd rhentu
Heb ddod â’ch offer eich hun gyda chi? Mae gennym hefyd amrywiaeth o dopiau meddal (soft tops) a byrddau caled, o fyrddau byr perfformiad 5'6", grovellers, minimals a byrddau hir. Gweler ein fflyd rhentu
POPETH SYDD EI ANGEN, UNRHYW ADEG O'R FLWYDDYN
Archebwch, talwch a chwblhewch ffurflenni cyn-wers mewn munud neu ddwy yn unig.
Yn syml, defnyddiwch y botwm 'Archebwch Nawr' o unrhyw sgrin neu pwyswch y botwm isod i archebu offer syrffio.
Ar gyfer grwpiau mawr rydym yn argymell bod gennych holl gyfeiriadau e-bost yr oedolion wrth law, fel y gall y system anfon y ddogfen cyn-wers angenrheidiol atynt.
ARCHEBU AR-LEIN YN HAWDD
OES UNRHYW ANGHENION?
Gallu nofio'n hyderus mewn dŵr agored.
Rhaid i bawb sy'n llogi fod wedi syrffio o'r blaen ac yn meddu ar ddealltwriaeth dda o lanw terfol (rip currents), sut i'w adnabod a pha gamau i'w cymryd os cânt eu dal mewn un. Telerau ac Amodau Llawn.
Byth wedi syrffio o’r blaen neu heb lawer o brofiad? Bydd ein gwersi i ddechreuwyr yn rhoi'r holl wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch, i logi ac aros yn ddiogel yn y môr ar ymweliadau yn y dyfodol.