
GWERSI SYRFFIO I WELLHAWYR
Y LLWYBR I’R 'OUTBACK'
Wedi cael ychydig o wersi i ddechreuwyr? Gwersi ar ddal a syrffio tonnau dŵr gwyn? Yn meddwl sut i symud ymlaen ymhellach?
Mae ein gwersi syrffio i wellhawyr yn ddelfrydol ar gyfer perffeithio technegau sylfaenol, a phadlo allan ar ddiwrnodau â thonnau llai, i ddysgu am ddal y tonnau 'gwyrdd' di-dor hynny.
Gall y gwersi hyn gwmpasu unrhyw un o’r canlynol: gwella’r technegau sylfaenol a gwmpesir yn ein gwersi i ddechreuwyr, technegau padlo allan, dysgu troadau dŵr gwyn, moesau syrffio.
Ar ddiwrnodau tonnau llai, gallwn gwmpasu: dal tonnau di-dor, trimio, dysgu am droadau mwy datblygedig, a chynhyrchu cyflymder sylfaenol.
Rydym yn ymfalchïo mewn cyflwyno gwersi o’r ansawdd uchaf. Rydym yn teilwra pob gwers ar gyfer anghenion, nodau, dyheadau, oedran a gallu pawb.
Y DON WERDD ANODD EI DAL


ARCHEBU AR-LEIN YN HAWDD
Archebwch, talwch a chwblhewch ffurflenni cyn-wers mewn munud neu ddwy yn unig.
Yn syml, defnyddiwch y botwm 'Archebwch Nawr' o unrhyw sgrin neu pwyswch y botwm isod i archebu gwers syrffio i ddechreuwyr.
Ar gyfer grwpiau mawr rydym yn argymell bod gennych holl gyfeiriadau e-bost yr oedolion wrth law, fel y gall y system anfon y ddogfen cyn-wers angenrheidiol atynt.
*Lleiaf oedran saith. Gallu nofio yn hyderus.


AMGYLCHEDD DYSGU DIOGEL A HWYL
Mae ein hyfforddwyr yn arbenigwyr proffesiynol, cyfeillgar, croesawgar, ac mae pob un wedi cymhwyso gyda gwobrau hyfforddwr y Gymdeithas Frenhinol Achub Bywyd neu Surf Lifesaving GB, Achubwr Bywyd Traeth/Hyfforddwr Syrffio NVBLGQ a'r Gymdeithas Syrffio Ryngwladol (ISA).
Dyfarnwyd Safon Rhuban INSPORT i ni gan Chwaraeon Anabledd Cymru ac rydym yn cynnig cynwysoldeb llawn, i bobl ag amrywiaeth o anableddau. Gyrrwch neges atom i ddarganfod rhagor.


Mae traethau llethr ysgafn y Borth ac Ynyslas yn ganolbwynt ar gyfer ymchwydd Bae Ceredigion, ac yn aml yn creu’r amodau perffaith ar gyfer dysgu sut i ddal tonnau di-dor.
Dyma leoliad godidog gyda mynyddoedd Cambria a Pharc Cenedlaethol Eryri yn gefndir iddo.
Mae ein traethau yn llawer tawelach na’n cymdogion prysur, ac yn aml gallwn gael y traeth cyfan i ni ein hunain.
TONAU MAWR AR GYFER CYNNYDD


POB OFFER YN CYNNWYS
Mae’r holl offer yn gynwysedig yn ein holl wersi, (dim costau llogi ychwanegol!). Astell feiston, siwt wlyb gaeaf y DU gynnes, esgidiau ac ar gyfer y misoedd oerach, menig a chwfl.