rhentu offer padlfyrddio

BYRDDAU, CYMHORTHION NOFIADWY, SIWTIAU GWLYB

A stand up paddle board group hiring equipment on Llyn Pendam Lake
A stand up paddle board group hiring equipment on Llyn Pendam Lake

Eisoes wedi gwneud ychydig o badlfyrddio? Yn teimlo’n hyderus ar y dŵr ar eich pen eich hun? Ddim awydd mynd â phopeth gyda chi ar wyliau?

Rydyn ni’n defnyddio byrddau chwyddadwy ar Steil Padlfyrddau Sefyll Sandback. Maen nhw’n 10'8", 34" o led ac yn gallu cario hyd at 140kg.

Maen nhw’n badlfyrddau sefydlog a nofiadwy.

Bwrdd, padl, tennyn a chymhorthion nofiadwy wedi'u cynnwys. Siwtiau gwlyb ychwanegol. Dim ond siwtiau gwlyb y gaeaf rydyn ni'n eu defnyddio, i gadw pawb yn gyfforddus, beth bynnag fo'r tywydd.

POPETH SYDD EI ANGEN, UNRHYW ADEG O'R FLWYDDYN

A mobile phone displeying a booking form with someone pressing book now
A mobile phone displeying a booking form with someone pressing book now

Archebwch, talwch a chwblhewch ffurflenni cyn-llogi mewn munud neu ddwy yn unig.

Yn syml, defnyddiwch y botwm 'Archebwch Nawr' o unrhyw sgrin neu pwyswch y botwm isod i archebu gwers syrffio i ddechreuwyr.

Ar gyfer grwpiau mawr rydym yn argymell bod gennych holl gyfeiriadau e-bost yr oedolion wrth law, fel y gall y system anfon y ddogfen cyn-wers angenrheidiol atynt.

ARCHEBU AR-LEIN YN HAWDD

OES UNRHYW ANGHENION?

Rhaid i unrhyw un sy'n llogi gallu nofio'n hyderus mewn dŵr agored. Rhaid i rai dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn yn y dŵr bob amser

Rhaid i bawb sy'n llogi fod wedi padlfyrddio o'r blaen ac yn meddu ar ddealltwriaeth dda o sut i gadw'n ddiogel ar y dŵr. Telerau ac amodau llawn.

Heb badlfyrddio o’r blaen neu heb lawer o brofiad? Bydd ein gwersi i ddechreuwyr yn rhoi i chi’r holl wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen arnoch chi, i ganiatáu chi i logi padlfyrddau a chadw’n ddiogel ar y dŵr yn ystod eich anturiaethau yn y dyfodol.

A stand up paddle board coach demonstrating to a student
A stand up paddle board coach demonstrating to a student
Llyn Pendam in the sunshine, a stunning lake
Llyn Pendam in the sunshine, a stunning lake

Pan fydd yr amodau'n caniatáu, byddai'n well gennym fod ar y traeth bob amser. Yn anffodus, mae gan yr arfordir syniadau eraill yn aml ac mae'n gallu bod yn rhy arw i ni allu cynnig y gweithgaredd gwych hwn yn ddiogel.

Yn ffodus, mae gennym ni lyn cysgodol anhygoel, sy'n cynnig yr amodau tawel gwastad pan fo'r traeth yn rhy arw a gwyntog.

Mae Llyn Pendam yn llyn trawiadol, cysgodol yn ardal yr Elenydd, tua 20 munud mewn car o’r Borth.

LLEOLIADAU PERFFAITH AR GYFER YMARFER