GWERSI PADLFYRDDIO GRŵP

SESIYNAU BLASU NEU GWERSI DWY AWR CYNHWYAFAWR

A paddle board coach demonstrating a step back turn to a student
A paddle board coach demonstrating a step back turn to a student

Wedi ein cofrestru gyda'r Awdurdod Trwyddedu Adventurous Activities, fel darparwr trwyddedig (Rhif trwydded R2788).

Mae ein hyfforddwyr yn broffesiynol, cyfeillgar, croesawgar, arbenigwyr, i gyd yn gymwys gyda gwobrau hyfforddwyr y British Stand up Paddle Association.

Mae'r gwersi hefyd yn cynnwys gwybodaeth hanfodol am ddiogelwch dŵr, adnabod peryglon ac asesu risgiau mewn ardaloedd, protocolau brys a chyflwyniad i asesu amodau diogelwch, i'ch helpu i gadw'n ddiogel ar eich anturiaethau yn y dyfodol.

Rydym yn ymfalchïo mewn cyflwyno gwersi o'r ansawdd uchaf.

Gan deilwra pob gwers ar gyfer anghenion, nodau, uchelgeisiau, oedran a gallu pob unigolyn.

Safon Rhuban INSPORT Chwaraeon Anabledd Cymru. Rydym yn cynnig cynhwysedd llawn, ar gyfer pobl ag amrywiaeth o anableddau. Anfonwch neges atom i ddarganfod mwy.

AMGYLCHEDD DIOGEL A HWYL

Paddle board lesson on Llyn Pendam with sunny skies
Paddle board lesson on Llyn Pendam with sunny skies

*Lleiaf oedran un deg un. Gallu nofio yn hyderus.

Mae ein gwersi padlfyrddio wrth sefyll dwy awr yn cwmpasu'r un agweddau diogelwch â'r sesiynau blasu, ond maent yn cynnig cyfle mwy cynhwysfawr i ddysgu am dechnegau cywir padlfyrddio, gan roi llawer mwy o amser i chi ymarfer, o dan arweiniad ein hyfforddwyr profiadol.

Trwy gydol y wers, byddwch yn dysgu am y dechneg badlo gywir a driliau i wella'ch paliad (stroke) , ynghyd â llu o sgiliau padlfyrddio eraill, i'ch helpu ar eich ffordd i ddod yn padlfyrddiwr medrus a chymwys.

£45.00 y pen

GWERSI DWY AWR CYNHWYAFAWR I DDECHREUWYR

A calm lake with sunshine and blue skies as a stand up paddle board group practice standing
A calm lake with sunshine and blue skies as a stand up paddle board group practice standing

Mae ein sesiynau blasu yn cynnig dim ond digon o amser i fynd i'r afael â hanfodion padlfyrddio.

Gan ddysgu sut i gadw'n ddiogel, i ddisgyn yn ddiogel, beth i'w wneud mewn argyfwng, technegau padlo cywir a, gobeithio, sefyll!

£30 y pen

SESIYNAU BLASU I DDECHREUWYR

*Lleiaf oedran un deg un. Gallu nofio yn hyderus.

A beautiful lake surrounded by gerrn hills and pine forest.
A beautiful lake surrounded by gerrn hills and pine forest.

Pan fydd yr amodau'n caniatáu, byddai’n well gennym fod ar y traeth i ddysgu i chi’r sgiliau sylfaenol o badlfyrddio wrth sefyll.

Yn anffodus, mae gan yr arfordir syniadau eraill yn aml ac mae'n gallu bod yn rhy arw i ni allu cynnig y gweithgaredd gwych hwn yn ddiogel.

Yn ffodus, mae gennym ni lyn cysgodol anhygoel, sy'n cynnig yr amodau tawel gwastad sydd eu hangen i feistroli’r grefft o badlfyrddio, pan fo'r traeth yn rhy arw a gwyntog.

Mae Llyn Pendam yn llyn trawiadol, cysgodol yn ardal yr Elenydd, tua 20 munud mewn car o’r Borth neu Aberystwyth.

AMGYLCHEDD DIOGEL A HWYL

Derek 'The Weatherman' Brockway wituh paddle boards on Borth Beach.
Derek 'The Weatherman' Brockway wituh paddle boards on Borth Beach.

POB OFFER YN CYNNWYS

Mae’r holl offer yn gynwysedig yn ein holl wersi, (dim costau llogi ychwanegol!). Astell feiston, siwt wlyb gaeaf y DU gynnes, esgidiau ac ar gyfer y misoedd oerach, menig a chwfl.